O enw ardderchocaf

(Angau ac adgyfodiad Crist)
Rhan I - 1,2,3,4,5,6;  1,2,4,(5,6,7,8);  1,2,8;  1,4,5.
O enw ardderchocaf
  Yw enw marwol glwy!
Caniadau'r holl angelion
  Fydd y fath enw mwy!
Bydd yr anfeidrol ddyfais
  O brynedigaeth dyn,
Gan raddau filoedd yno,
  Yn cael ei chanu'n un.

Fe ddaeth i wella'r archoll
  Trwy gym'ryd clwyf ei hun;
Etifedd nef yn marw
  I wella marwol ddyn;
Yn sugno'n llwyr y gwenwyn
  A rodd y sarph i ni,
Ac wrth y gwenwyn hwnw
  Yn marw ar Galfari.

Deg dryll ar hugain arian,
  Fy Iesu, oedd Dy brîs:
A all'sai ddim o'r arfaeth
  Dy werthu'n uwch neu'n îs?
Anfeidrol ddïystyrwch!
  Fe dal'sai 'Mhrynwr mawr
Y nefoedd fil o weithiau,
  A mil o weithiau'r llawr.

Bechadur, gwel E'n sefyll
  Yn llonydd ar y groes;
Clyw'r griddfan sy'n ei enaid
  Tan ddyfnder angau loes;
O gwrandaw ar ei riddfan:
  Mae pob ochenaid ddrud
Yn floedd yn nghlustiau'r nefoedd
   Am faddeu
       beiau'r byd.

Gwel ar y croesbren chwerw,
  Gyfiawnder mawr y ne',
Doethineb, a thrugaredd,
  Yn gorwedd mewn un lle,
A chariad anfesurol,
  Yn awr i gyd yn un,
Fel afon fawr lifeiriol
  Yn rhedeg at y dyn.

Cynnefin iawn â dolur,
  Gofidus iawn a fu,
Fel doi tangnefedd rhyfedd
  A iechyd llawn i ni;
Fe ddygodd ein doluriau,
  A'n clwyfau, bob yr un,
Trwy rym tragwyddol gariad,
  O fewn ei gorph ei hun.

Ac yna adgyfododd
  Yn ogoneddus iawn;
Daeth bore teg a hyfryd,
  'N ol 'stormus ddu brydnawn;
Y gadwyn fawr a dorodd,
  Ar wawr y trydydd dydd,
Gorchfygodd angau ei hunan,
  O'r carchar daeth yn rhydd.

I fynu daeth o Edom,
  A'i wisg yn goch ei lliw;
Nis gall'sai un creadur
  Mewn cadwyn gadw'm Duw;
Fe dorodd rym yr angau,
  Agorodd ddrysau'r bedd,
Palmantodd ffordd o'r ddaear
  Yn awr i ganol hedd.
angelion :: angylion
Clyw'r griddfan sy'n ei enaid ::      
      Clyw ddwys riddfanau'i enaid
Tan :: Dan
gwrandaw ar ei riddfan :: grando ei gwynfanau -
Gyfiawnder mawr :: Gyfiawnder pur

             - - - - -

O! enw ardderchocaf
  Yw enw marwol glwy';
Caniadau archangelion
  A fydd fâth enw mwy:
Bydd yr anfeidrol ddyfais
  O brynedigaeth dyn,
Gan raddau filoedd yno,
  Yn cael ei chanu'n un.

Deg dryll ar hugain arian,
  Fy Iesu, oedd Dy brîs:
Allasai ddim o'r arfaeth
  Dy werthu'n uwch neu'n îs?
Anfeidrol ddïystyrwch!
  Talasai 'Mhrynwr mawr
Y nefoedd fil o weithiau,
  A mil o weithiau'r llawr.

Bechadur! gwêl E'n sefyll
  Yn llonydd ar y groes;
Clyw'r griddfan sy yn Ei enaid
  Dàn ddyfnder angeu loes;
O! gwrando ar Ei riddfan!
  Mae pob ochenaid ddrud
Yn ddigon mawr o haeddiant
  Ei hun i brynu byd.

          - - - - -

O Enw ardderchoccaf,
  Yw enw marwol glwy',
Caniadau'r holl angylion,
  A fydd fath enw mwy;
Bydd yr anfeidrol ddyfais
  O brynedigaeth dyn,
Gan raddau filoedd yno
  Yn cael ei chanu'n un.

O Arglwydd rho i mi dafod
  Na thawo ddydd na nos,
Ond adrodd heb ddiffygio,
  Am rinwedd
    gwaed y groes;
Na ddelo gair o'm genau,
  Yn ddirgel nac ar g'oedd,
Ond am fod Iesu anwyl
  Yn wastad wrth fy modd.

O Iesu pwy all beidio
  Dy ganmol ddydd a nos?
A phwy all beidio cofio
  Dy farwol ddwyfol loes?
A phwy all beidio a chanu,
  Am iachawdwriaeth râd,
Ag sydd yn teimlo gronyn
  O rinwedd pur dy waed?

Ni fedr daear gano,
  A'i holl soniarus lef,
Ganiadau gan felysed,
  Fydd yn ei gwm'ni ef;
Ond 'nawr holl nef y nefoedd,
  Mewn un hyfrydaf dôn,
A seiniant gyd â'u gilydd,
  Ogoniant mawr yr Oen.

          - - - - -

O Enw ardderchocaf,
  Fydd enw Iesu byth,
Caniadau'r holl angylion,
  Sydd iddo yn ddilyth;
Bydd yr anfeidrol ddyfais,
  O brynedigaeth dyn,
Gan raddau fil o filoedd,
  Yn cael ei chanu'n un.

O Iesu pwy all beidio,
  Dy ganmol ddydd a nos,
A phwy all beidio cofio,
  Dy farwol ddwyfol loes!
A phwy all beidio a chanu,
  Am iechydwriaeth rad,
Ag sydd yn teimlo gronyn,
  O rinwedd pur dy waed!

Ni fedr daear ganu,
  A'u holl soniarus lef,
Ganiadau gan felysed,
  Fydd yn ei gwm'ni ef;
Ond 'n awr holl nef y nefoedd,
  Mewn un hyfrydaf dôn,
A seiniant gyd â'u gilydd,
  Ogoniant mawr yr Oen.

          - - - - -

O Enw ardderchocaf,
  Yw enw marwol glwy!
Caniadau'r holl angelion
  Fydd y fath enw mwy;
Bydd yr anfeidrol ddyfais
  O brynedigaeth dyn,
Gan raddau filoedd yno,
  Yn cael ei chanu'n un.

Unwaith am byth yn ddigon,
  I wisgo'r goron ddrain;
Unwaith am byth yn ddigon
  I ddiodde'r bicell fain:
Un aberth mawr a roddwyd,
  Er dofi dwyfol lid,
Un Iesu croeshoeliedig
  Yn ddigon trwy'r holl fyd.

Pe b'asai fil o fydoedd,
  Yn cael eu prynu ynghyd,
A'r cyfryw bris buasent,
  Yn llawer iawn rhy ddrud;
'Does angel fyth na seraph,
  Na cherub o un rhyw,
I'r filfed ran all dd'wedyd,
  Mor werthfawr gwaed fy Nuw.
William Williams 1717-91

Tonau [7676D]:
Gräfenberg (alaw Königsburg 1540)
Mannheim / Passion Chorale (H L Hassler / J S Bach)
Meirionydd (alaw Gymreig)
Penmachno (<1835)
Whitford (J Ambrose Lloyd 1815-74)

gwelir:
  Rhan II - Ac yna atgyfododd
  Bechadur gwel e'n sefyll
  Bechadur gwel yr Iesu
  Gwêl ar y croesbren acw
  O Arglwydd rho i mi dafod
  O Iesu pwy all beidio?
  Pe buasai fil o fydoedd
  Unwaith am byth yn ddigon
  Yr Iesu adgyfododd

(The death and resurrection of Christ)
 
Oh a most excellent name
  Is the name of a mortal wound!
The songs of all the angels
  Will be such a name evermore!
The immeasurable scheme
  Of the redemption of man, will be
By thousands of degrees there,
  Getting sung as one.

He came to make better the wound
  Through taking a disease himself;
The heir of heaven dying
  To make better mortal man;
Sucking completely the poison
  Which the serpent gave to us,
And through that poison
  Dying on Calvary.

A score and ten pieces of silver,
  My Jesus, was thy price:
Could anything of divine purpose
  Sell thee higher or lower?
Immeasurable disregard!
  My great Redeemer would pay more
Than heaven a thousand time,
  And a thousand times the earth below.

Sinner, see Him standing
  Cheerfully on the cross;
Hear the groan which is in his soul
  Under the depth of the throes of depth;
O listen to his groan:
  Every costly sigh
A shout in the ears of heaven
  For the forgiveness
      of the faults of the world.

Look on the bitter cross of wood,
  The great righteousness of heaven,
Wisdom, and mercy,
  Lying in one place,
And immeasurable love,
  Now together as one,
Like a great torrential river
  Running to the man.

Acquainted well with grief,
  Very sorrowful he was,
That wonderful peace might come
  And full salvation to us;
He took our sorrows,
  And our diseases, every one,
Through the eternal force of love,
  Within his own body.

And then he rose again
  Very gloriously;
There came a fair and lovely morning,
  After a stormy, black afternoon;
The great chain did break,
  At the dawn of the third day,
He overcame death itself,
  From the prison he came free.

Up he came from Edom,
  With his clothing red in colour;
Nor could any creature
  In a chain keep my God;
He broke the force of death,
  He opened the doors of the grave,
He paved the way from the earth
  Now to the centre of peace.
::
Hear the groan which is in his soul ::      
      Hear the intense groans of his soul
::
listen to his groan :: listen to his complaints -
The great righteousness :: The pure righteousness

               - - - - -

Oh, a most excellent name
  Is the name of a mortal wound;
The songs of archangels
  Shall be such a name evermore:
The infinite scheme shall be
  Of the redemption of man,
By thousands of degrees there,
  Getting sung the same.

A score and ten pieces of silver,
  My Jesus, was Thy price:
Could anything of the purpose
  Sell Thee higher or lower?
Immeasurable contempt!
  The great Redeemer would pay
Heaven a thousand times,
  And a thousand times the earth.

Sinner, see Him situated
  Cheerfully on the cross;
Hear the groan which is in His soul
  Under the depth of the throes of death;
Oh, listen to his groan!
  Every costly sigh is
Sufficiently great of merit
  Itself to redeem the world.

                - - - - -

O the most excellent name,
  Is the name of a mortal wound,
The songs of all the angels,
  Shall be such a name evermore;
The immeasurable plan
  Of the redemption of man,
By thousands of degrees there
  Sung as one.

O Lord, give me a tongue
  May it never be silent day or night,
But reporting without tiring,
  About the merit of the blood
      of the cross;
May no word come from my mouth,
  Secretly or publicly,
But about dear Jesus being
  Constantly delighting me.

O Jesus, who could not
  Extol thee day and night?
And who could not remember
  Thy mortal, divine anguish?
And who could not sing,
  About gracious salvation,
Who feels a grain
  Of the pure merit of thy blood?

The earth cannot sing,
  With all its resounding cry,
Songs so sweet,
  As shall be in his company;
But now all whole heaven of heaven,
  In one most delightful tune,
Sound together with one another,
  The great glory of the Lamb.

                - - - - -

O most excellent Name,
  That shall be the name of Jesus forever,
The songs of all the angels,
  Are unto him unfailingly;
The immeasurable plan of th
  Redemption of man shall be,
By a thousand thousands of degrees,
  Sung as one.

O Jesus, who could not
  Extol thee day and night,
And who could not remember
  Thy mortal, divine anguish,
And who could not sing,
  About gracious salvation,
Who feels a grain,
  Of the pure merit of thy blood?

The earth cannot sing,
  With all their resounding cry,
Songs so sweet,
  As shall be in his company;
But now all whole heaven of heaven,
  In one most delightful tune,
Sound together with one another,
  The great glory of the Lamb.

                - - - - -

O the most excellent Name,
  Is the name of a mortal wound!
The songs of all the angels
  Shall be such a name evermore;
The immeasurable plan of the
  Redemption of man shall be,
By a thousands of degrees there,
  Sung as one.

Once forever sufficient,
  To wear the crown of thorns;
Once forever sufficient
  To suffer the sharp spear:
One great sacrifice was given,
  In order to tame divine wrath,
One Jesus crucified
  Sufficient throughout the whole world.

If a thousand worlds were to
  Get redeemed altogether,
With such a price they would be
  Very much too costly;
No angel ever nor seraph,
  Nor cherub of any kind,
To the thousandth part could tell
  How precious the blood of my God.
tr. 2013,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~